SL(5)065 – Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Cymru) 2017

Cefndir a Phwrpas

Cafodd y Cyngor Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) ei gadw mewn bodolaeth gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi prif swyddogaethau’r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor neu osod swyddogaethau ychwanegol arno.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi’r swyddogaeth o bennu meini prawf achredu i Weinidogion Cymru. Nodwyd y swyddogaeth hon gynt yn rheoliad 7(2) a (3) o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddirprwyo swyddogaethau achredu, monitro cydymffurfedd â’r meini prawf achredu a thynnu achrediad yn ôl (“y Gwasanaethau”) i bwyllgor sydd i gael ei alw y pwyllgor achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol (“y Pwyllgor”) (rheoliad 5), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth y Pwyllgor hwnnw (rheoliad 6).

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth i sefydliad apelio yn erbyn penderfyniad o’r Pwyllgor i bwyllgor apelau sydd i gael ei alw y pwyllgor apelau achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol (“y Pwyllgor Apelau”) (rheoliad 7), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth y Pwyllgor Apelau hwnnw (rheoliad 8).

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn drafft hwn (Rheol Sefydlog 21.3(ii): mae’r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).

Nodwyd pwynt adrodd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (“y Gorchymyn”). Cafodd y Gorchymyn ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 14 Chwefror 2017 a daeth i rym ar 16 Chwefror 2017. Nododd y pwynt adrodd fod y Gorchymyn yn cyfeirio at “y meini prawf achredu”, ond ar adeg gwneud y Gorchymyn, nid oedd y rheini ar gael.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu “y meini prawf achredu”. Er nad yw’r meini prawf achredu drafft yn rhan o’r Rheoliadau hyn, darparwyd copi gyda’r Rheoliadau er gwybodaeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

03 Mawrth 2017